Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

17 Mawrth 2014

 

 

CLA367 - Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005.  Mae'r diwygiadau'n rhoi Rheoliadau'r UE ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol ar waith yng Nghymru.  Bydd y diwygiadau'n parhau i sicrhau bod bwydydd â ffytosterolau neu stanolau ychwanegol yn cael eu labelu'n gyson fel bod gan ddefnyddwyr sydd am leihau neu gynnal colesterol eu gwaed yr holl wybodaeth am y defnydd priodol o'r cynhyrchion hyn.

 

CLA368 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor  (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

 

GweithdrefnCadarnhaol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 ('Rheoliadau 2013'), Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.

 

Mae Rheoliadau 2013 wedi'u diwygio fel bod y troseddau a grëwyd a'r pwerau i gael gwybodaeth a chyflwyno cosbau'n ymwneud â chynlluniau a wnaed o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu sy'n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2014 yn unol â pharagraff 6 (1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

 

CLA369 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 drwy uwchraddio, o 1 Ebrill 2014, gwerth talebau a roddwyd tuag at y gost o ddarparu sbectolau a lensys cyffwrdd a chyflenwi rhai newydd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromig a chategorïau arbennig cyfarpar a chynyddu gwerth talebau a roddwyd tuag at y gost o drwsio cyfarpar optegol a chyflenwi rhai newydd.

 

 

CLA370 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:    Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:-

 

(1)      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;

(2)      Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; a

(3)      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.

 

Effaith y diwygiadau hyn yw caniatáu i'r Credyd Cynhwysol gael ei dderbyn fel budd-dal cymhwyso fel na fydd yn rhaid i hawliwr dalu taliadau'r GIG yn llawn neu'n rhannol. Byddai'n basbort ar gyfer holl hawlwyr y Credyd Cynhwysol rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015.

 

Mae hyn yn golygu y gall y rhai sy'n cael y Credyd Cynhwysol fod yn gymwys i gael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim, prawf golwg y GIG am ddim a chymorth tuag at gost sbectolau a chostau teithio, a chyflwyno hawliad o dan Gynllun Incwm Isel y GIG i gael cymorth gyda chostau iechyd. 

 

 

CLA371 - Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 (“Rheoliadau 1990”) a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”).

 

Mae Adran 15 o Ddeddf 1989 yn nodi’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol sy'n gymwys i bwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdod lleol. Mae Rheoliad 16A o Reoliadau 1990 yn darparu ar gyfer eithriad i'r ddyletswydd o dan adran 15 i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol neilltuol ar bwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol awdurdod lleol a sefydlwyd yn unig i gyflawni swyddogaethau neu i gynghori mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod (“pwyllgorau ardal”).

 

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan Atodlen 1 i Ddeddf 1989 ac maent yn mewnosod ar gyfer Cymru reoliad 16AA newydd i Reoliadau 1990 sy’n nodi’r amodau sydd i'w bodloni yng Nghymru er mwyn i’r eithriad ar gyfer pwyllgorau ardal fod yn gymwys.

 

 

CLA372 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fframwaith cyfreithiol y caiff llywodraeth leol gyflawni gwariant cyfalaf ynddo. Caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio’r gweithgarwch hwnnw drwy reoliadau. Cafodd darpariaeth o’r fath ei gwneud gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239) (“Rheoliadau 2003”) sydd wedi eu diwygio ers hynny. 

 

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2003 i ganiatáu i’r awdurdodau lleol ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a gafwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013 i wneud ôl-daliadau mewn perthynas â thâl cyfartal.

 

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 24A newydd yn Rheoliadau 2003, y bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Ebrill 2018. Mae’r rheoliad 24A newydd yn darparu nad oes angen i awdurdod lleol godi swm ar gyfrif refeniw mewn perthynas â thaliad sydd i’w wneud i swyddog neu weithiwr cyflogedig am waith a wnaed yn y gorffennol ac y cafodd y swyddog neu’r gweithiwr cyflogedig dâl anghyfartal amdano nes bod rhaid i’r awdurdod dalu’r swm hwnnw i’r swyddog neu’r gweithiwr cyflogedig. Mae hefyd yn darparu y bydd mantais rheoliad 24A yn gymwys hyd at 1 Ebrill 2023 pan nodir rhwymedigaeth ar neu cyn 1 Ebrill 2018.

 

 

CLA373 - Rheoliadau'r Llyfr Rhent (Ffurflenni Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Llyfr Rhent (Ffurflenni Hysbysu) 1982.  Caiff y diwygiadau eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Diwygio Lles 2012 ac maent yn disodli'r cyfeiriadau a wneir at y credyd cynhwysol am gyfeiriadau at lwfans rhent a chynlluniau ad-dalu rhent.